Gwasanaethau Plymio a Gwresogi a galwadau brys mewn argyfwng yn ardaloedd Wrecsam, Caer a Llangollen
Os oes gennych chi argyfwng plymio yn ardal Caer neu Wrecsam, ffoniwch ni nawr ar 07966 581 757! Mae Adams Emergency Plumbing yn barod i dderbyn eich galwad unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos! Byddwn yn darparu cyngor i chi ar unwaith i’ch helpu i leddfu’r broblem, a bydd plymer ar ei ffordd i ddatrys yr argyfwng plymio gynted ag y bo modd.
Mae ein gwasanaeth plymio cyflym ac ymatebol wedi ennill enw da i ni am ofal cwsmer o’r radd flaenaf a gwaith trwsio a gwaith gosod rhagorol. Gwaith argyfwng yw rhan o’n gwasanaeth eang: rydym ni’n medru cynorthwyo ag unrhyw beth yn ymwneud â phlymio a gwresogi. Rydym ni’n mwynhau mynd i’r afael â thasgau anarferol y mae’n well gan lawer o blymwyr eraill eu hosgoi! P’un ai ydym ni’n gosod y systemau ynni effeithlon diweddaraf neu’n cynnal hen bibellau gwresogi, yn trwsio tapiau sy’n gollwng neu’n gosod system wresogi o dan y llawr, rydym ni’n mynd y filltir ychwanegol i sicrhau eich boddhad llawn chi, dim ots beth yw maint y dasg - bach neu fawr.
Mae gennym ni brofiad ymhob math o waith sy’n gysylltiedig â phlymio a gwresogi. Rydym ni’n gosod systemau gwres canolog, gwresogi o dan y llawr a systemau cynhesu dwr solar a systemau heb dyllau awyr. Rydym ni’n gwneud gwaith trwsio cyffredinol, gosod cawodydd ac eitemau ystafell ymolchi, teilio, pwmpiau fflysio, uwchraddio bwyleri, gwaith nwy ac adnewyddu cegin ac ystafell ymolchi cyfan. Rydym ni’n ymfalchïo yn ein gwaith, yn cynnwys yr elfennau na fedrwch chi eu gweld! Mae ein sylw trwyadl i’r manylion yn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud i’r safon uchaf, gyda gofal ac ystyriaeth bob amser.
Rydym ni ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn, ar gyfer pob argyfwng plymio.
Yn achos ymholiadau plymio cyffredinol mae croeso i chi ein ffonio rhwng 9am a 10pm am ddyfynbris cystadleuol, am ddim, sy’n ddiymrwymiad. Y dewis arall yw llenwi ein ffurflen er mwyn i ni eich ffonio chi.
Ffurflen gais
ffonio yn ôl
Rydym ni’n mynd y filltir ychwanegol ar ran ein cwsmeriaid, a dyna pam bod gymaint o bobl rydym ni’n eu helpu mewn argyfwng yn dod yn ôl atom ni ar gyfer gwaith plymio a gwresogi arall, bach neu fawr!
Mike Adams, sylfaenydd Adams Emergency Plumbing
Gwasanaethau plymio dibynadwy i ardal Wrecsam, Caer a’r cyffiniau