Amdanom ni
Sefydlwyd cwmni Adams Emergency Plumbing yn 2004 i ddod â gwasanaeth plymio a gwresogi chwyldroadol i drigolion ardal Wrecsam a Caer. Ar ôl i nifer o ddarparwyr gwasanaethau plymio ei siomi, sylweddolodd Mike Adams y gallai ddarparu gwasanaeth llawer gwell na’r addewidion disail a gafodd. Roedd tair egwyddor sylfaenol wrth graidd y cwmni:
- Ateb eich galwad ffôn unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos
- Adnabod a nodi’r ateb mwyaf priodol, wedi ei deilwra i’ch union anghenion chi
- Crefftwaith o’r ansawdd uchaf
Rydym ni’n angerddol o ran cyflawni’r amcanion hyn a goresgyn disgwyliadau. Rydym ni’n mwynhau datblygu perthnasoedd hirhoedlog â phobl sy’n byw yn ein hardal drwy ddarparu y gofal cwsmer a’r gwasanaeth o’r ansawdd gorau posibl.
Mae’r profiad o argyfwng plymio yn medru bod yn dorcalonnus, ac mae hyd yn oed tap yn gollwng yn barhaus yn medru bod yn rhwystredig iawn! Rydym ni’n deall pwysigrwydd nid yn unig delio â’r broblem yn gyflym, ond yn y ffordd orau posibl hefyd. Mae medru ffonio a siarad â phlymer cymwysedig, profiadol yn hanfodol, a dyna pam rydym ni’n credo mai ateb y ffôn yw ein tasg bwysicaf! Fe wnawn ni ddarparu cymaint o gyngor â phosibl ar y ffôn, heb godi tâl ychwanegol, gan eich helpu i ddelio â’r broblem eich hun i arbed amser a lleihau’r difrod i’ch eiddo.
Rydym ni’n gweithredu mewn radiws ugain milltir o ganol tref Wrecsam yn unig. Fel arfer mae ein cwsmeriaid ugain munud oddi wrthym ni ar y mwyaf, felly rydym ni’n medru cynorthwyo mewn argyfwng heb godi ffioedd ymweld costus iawn.
Mae pob un o’n plymwyr yn meddu ar gymwysterau llawn yn y maes. Rydym ni’n cynnig cyfraddau cystadleuol a rhoir gwarant ar yr holl waith trwsio a gwaith gosod. Rydym ni’n ymateb yn gyflym a’n nod yw lleihau’r tarfu yn eich eiddo lle bynnag y bo modd.