Amdanoch chi
Gofal cwsmer sydd wrth graidd cwmni Adams Emergency Plumbing, a dyna pam rydyn ni’n treulio amser i ddeall eich anghenion penodol chi wrth chwilio am y plymer cywir. Efallai mai dyma rhai o’r rhinweddau rydych chi’n chwilio amdanynt mewn peiriannydd gwresogi a phlymio proffesiynol, cymwysedig a phrofiadol.
Plymer sy’n ateb y ffôn
Bydd cwmni Adams Emergency Plumbing yn ateb eich galwad bob tro, 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Mike neu aelod o’i dîm fydd yn ateb eich galwad fel arfer. Os nad ydynt ar gael am ryw reswm, bydd gwasanaeth peiriant ateb yn cymryd eich manylion a byddwn yn trefnu eich ffonio yn ôl ar frys. Rydym ni wedi ymrwymo i ymateb i chi pan fo’r mwyaf o angen am ein gwasanaeth.
Plymer sy’n gwrtais a phrydlon
Mewn argyfwng fe fyddwn ni gyda chi gynted ag y bo modd, gan sicrhau cadw unrhyw ddifrod potensial i’ch eiddo i’r isafswm. Yn achos pob ymholiad ac apwyntiad arall byddwn yn dynodi slot amser dwy awr, wedi ei gytuno â chi ymlaen llawn, yn nodi pryd y byddwn yn ymweld â’ch eiddo chi.
Dylid parchu eich cartref a’ch eiddo chi bob amser
Nod ein tîm yw lleihau’r tarfu ar eich cartref a gweithio yn ofalus a thrwyadl. Rydym ni’n gweithredu mewn modd glân, taclus a threfnus. Rydym ni’n gwisgo gwisg y cwmni ac yn gorchuddio dodrefn a lloriau â chynfasau llwch fel bo angen.
Crefftwr y medrwch chi ymddiried ynddo
Rydym ni’n mwynhau creu perthynas â chleientiaid wedi ei seilio ar ymddiriedaeth a pharch. Mae hyn yn sicrhau bod eich gwaith chi’n cael ei gwblhau i’r safonau uchaf ac am y gwerth gorau, ac mae’n rhoi’r hyder i chi y gwnawn ni ymgymryd â’r dasg mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, hyd yn oed pan nad ydych chi yn eich cartref. Mae ein gwasanaeth dibynadwy yn diogelu eich dyddiau gwyliau gwerthfawr ac yn eich galluogi chi i fwrw ymlaen â’ch gweithgareddau arferol.
Gwasanaeth dibynadwy ar gyfer eich holl waith plymio
Rydych chi’n chwilio am wasanaeth o’r radd flaenaf gan blymer lleol a fydd yn eich gwasanaethu chi dros y blynyddoedd, gan wneud tasgau bach, canolig a mawr. Rydym ni’n mwynhau perthynas hirdymor â llawer o gwsmeriaid ac rydym ni’n barod i helpu bob amser, beth bynnag yw maint a chymhlethdod y dasg. O ran eich prosiectau yn y dyfodol, fe wnawn ni rannu ein cyngor, arbenigedd a phrofiad â chi i’ch cynorthwyo i wneud y penderfyniad cywir pan fo’n fater o ddiweddaru eich system gwres canolog, gosod ystafell ymolchi newydd neu dasg arall.
Gwasanaeth lleol i bobl leol
Rydym ni’n gwasanaethu pobl sy’n byw mewn radiws ugain milltir o ganol tref Wrecsam yn unig. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni’n medru eich cyrraedd chi’n gyflym pan fo fwyaf o’n hangen ni. Mae’n cynorthwyo i greu ymddiriedaeth a pherthynas gref hefyd, gan ddarparu gwasanaethau plymio a gwresogi y medrwch chi ddibynnu arno am flynyddoedd i ddod.